SL(6)427 – Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023
Cefndir a diben
Mae Rhan 2A o Ddeddf Adeiladu 1984 (Deddf 1984) yn darparu ar gyfer rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu a goruchwylio’r rhai sy’n arfer swyddogaethau yn y maes hwn. Nod Rhan 2A yw gwella lefelau cymhwysedd ac atebolrwydd yn y sector rheolaeth adeiladu drwy greu strwythur prof fesiynol a rheoleiddiol unedig ar gyfer rheolaeth adeiladu.
Mae Deddf 1984 hefyd yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer adennill taliadau am gyflawni swyddogaethau ac mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf 1984. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan y pŵer hwnnw, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru adennill taliadau am swyddogaethau a gyflawnir o dan Ddeddf 1984 (swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt), fel: penderfynu ar geisiadau i gofrestru person yn arolygydd adeiladu cofrestredig neu yn gymeradwywr rheolaeth adeiladu; cynnal ymchwiliadau camymddwyn proffesiynol; ymateb i apelau.
Y weithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 3(2) yn nodi rhestr o swyddogaethau y gellir codi tâl amdanynt. Mae rheoliad 3(2)(c) i (e) yn cyfeirio at “gamau” a gymerir mewn perthynas â swyddogaethau penodol, tra bod rheoliad 3(2)(f) i (g) yn cyfeirio at “unrhyw gamau” a gymerir mewn perthynas â swyddogaethau penodol eraill.
Nid yw’n glir a fwriedir i “gamau” ac “unrhyw gam” fod ag ystyron gwahanol. Os bwriedir iddynt fod yn wahanol, beth yw'r gwahaniaeth? Os na fwriedir iddynt fod yn wahanol, pam y defnyddir termau gwahanol?
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Mae rheoliad 6(1) yn nodi bod yn rhaid i berson dalu taliadau penodol os oes gan Weinidogion Cymru “sail resymol” dros gredu y gall y person fod yn torri Rhan 2A o Ddeddf Adeiladu 1984. Mae rheoliad 6(1), felly, yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol i'r seiliau fod yn rhesymol.
Mewn mannau eraill yn y Rheoliadau, fodd bynnag, nid oes gofyniad penodol i fod yn rhesymol. Er enghraifft:
§ Yn rheoliad 3(2)(c), mae swyddogaeth y gellir codi tâl amdani yn cynnwys “camau” a gymerir gan Weinidogion Cymru o dan adran 58H o Ddeddf Adeiladu 1984. Nid yw rheoliad 3(2)(c) yn nodi “camau rhesymol”.
§ Yn rheoliad 4(2), mae cyfeiriad at y “costau” y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddynt. Nid yw rheoliad 4(2) yn nodi “costau rhesymol”.
Fel mater o gyfraith gyhoeddus, rhaid i Weinidogion Cymru weithredu’n rhesymol bob amser, felly nid yw’n glir pam fod angen i reoliad 6(1) gyfeirio at fod Gweinidogion Cymru yn rhesymol.
Byddem yn croesawu eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei dull o gynnwys “rhesymol” mewn darpariaethau deddfwriaethol fel y rhai a amlinellir uchod.
3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft
Yn y rheoliad 8(2)(a) Saesneg, rhaid i gais am daliadau gynnwys:
“datganiad o’r gwaith a wnaed a’r costau y mae Gweinidogion Cymru wedi mynd iddynt wrth gyflawni swyddogaeth y gellir codi tâl amdani” (ein pwyslais ni).
Mae'r geiriau a bwysleisir, fodd bynnag, ar goll o’r rheoliad 8(2)(a) Cymraeg.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae’r Rheoliadau’n cyfeirio at y dogfennau a ganlyn:
§ cynllun codi tâl (rheoliad 4),
§ cod ymddygiad (rheoliad 6(4)(a)),
§ rheolau ymddygiad proffesiynol (rheoliad 6(4)(b),
§ rheolau safonau gweithredol (rheoliad 6(4)(b)).
Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gadarnhau statws presennol y dogfennau hyn, gan gynnwys manylion ynghylch ble y byddant ar gael, a chadarnhau bod pob dogfen wedi’i gwneud yn derfynol a’i bod ar gael yn hawdd ers y daeth y Rheoliadau i rym ar 1 Ionawr 2024.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bob un o’r pwyntiau adrodd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
21 Rhagfyr 2023